Ein cyf/Our ref: Marine Policy Inquiry

Eich cyf/Your ref:

 

Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

 

Ebost/Email

keith.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn/Phone: 03000 654805

 

Alun Ffred Jones AM

Chair

Environment and Sustainabiliy Commitee
National Assembly for Wales
Cardiff Bay
Cardiff
CF99 1NA

 

 

12 March 2015

 

Dear Alun

 

National Assembly for Wales’ Environment and Sustainability Committee Inquiry into Marine Policy in Wales

 

Supplementary Submission by Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

 

Further to the Committee’s evidence session on the 26th February, the following additional information is offered by Natural Resources Wales to clarify an area of substantial marine policy and legislative delivery that is currently underway but which was not discussed at the evidence session.

 

The UK stocktake and subsequent analysis of gaps in the marine protected area (MPA) network, is, as was discussed at the evidence session on the 26th February, still underway. 

 

We are, however, already aware of some existing gaps in coverage of marine features that require protection under the European Birds Directive and European Habitats Directives. The specific gaps include:

 

The Joint Nature Conservation Committee has worked with Natural Resources Wales and other UK Statutory Nature Conservation Bodies to analyse the best available data to identify important areas for both harbour porpoise and birds at sea. These analyses are being used to develop formal site recommendations in Wales and across the UK. The areas concerned in Welsh waters are of interest to the same stakeholders and as a result we are taking forward a joint programme of work for both marine SACs and SPAs.

 

Natural Resources Wales began a period of substantial informal stakeholder engagement on the 23rd February to explain and discuss the possible new sites and explore implications.  A formal consultation will follow later this year.

 

A leaflet summarising the possible sites, and a supporting set of Frequent Asked Questions have been developed and these are provided to accompany this letter.  These are also available to download from the following web page:

 

http://naturalresourceswales.gov.uk/marine/information-about-our-marine-work/?lang=en

http://naturalresourceswales.gov.uk/marine/information-about-our-marine-work/?lang=cy

 

The decision on whether or not to designate sites in Welsh territorial waters is the responsibility of Welsh Ministers.  The decision must be based solely on the scientific evidence.  As part of the process the Welsh Government must consider advice from Natural Resources Wales on potential sites and decide whether or not to proceed to formal consultation on the basis of this advice. 

 

Natural Resources Wales’ role in the process is as statutory advisor to Government on site selection.  Natural Resources Wales also undertakes public consultation on possible sites on behalf of, and as instructed by, the Welsh Government. 

 

NRW Marine Work Programme

We are currently working on confirming our forward marine work programme for 2015/16 and as discussed at the evidence session on the 26th February, we will forward this to the Committee as soon as it is available.

 

If you require any further information, please do not hesitate to contact me.

 

Yours sincerely

 

Keith Davies

Head of Planning Energy, Landscape and Climate Change

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ein cyf/Our ref: Marine Policy Inquiry

Eich cyf/Your ref:

 

Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

 

Ebost/Email: keith.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn/Phone: 03000 654805

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Description: coloured logog jpeg.jpgAlun Ffred Jones AC

Cadeirydd

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

12 Mawrth 2015

 

Annwyl Alun

 

Ymchwiliad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Bolisi Morol yng Nghymru

 

Cyflwyniad Atodol gan Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

 

Yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor ar 26ain Chwefror, caiff yr wybodaeth ychwanegol a ganlyn ei chynnig gan Cyfoeth Naturiol Cymru i egluro maes yn ymwneud â pholisi morol a chyflawni deddfwriaethol sydd ar waith ar hyn o bryd, ond na chafodd ei drafod yn y sesiwn dystiolaeth.

 

Fel y trafodwyd yn y sesiwn dystiolaeth ar 26ain Chwefror, mae gwaith y DU o bwyso a mesur a dadansoddi bylchau yn y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yn dal i fod ar y gweill.

 

Fodd bynnag, rydym eisoes yn ymwybodol fod bylchau i’w cael o safbwynt nodweddion morol y mae angen eu gwarchod dan Gyfarwyddeb Adar Ewrop a Chyfarwyddebau Cynefinoedd Ewrop. Mae’r bylchau penodol yn cynnwys:

·         Yr angen am Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer llamidyddion

·         Yr angen am Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar gyfer adar ar y môr

 

Mae’r Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC) wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyrff Cadwraeth Natur Statudol eraill yn y DU i ddadansoddi’r data gorau sydd ar gael er mwyn canfod ardaloedd pwysig i lamidyddion ac adar ar y môr. Caiff y dadansoddiadau hyn eu defnyddio i ddatblygu argymhellion ffurfiol yn ymwneud â safleoedd yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae’r ardaloedd dan sylw yn nyfroedd Cymru o ddiddordeb i’r un rhanddeiliaid, ac o’r herwydd rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen waith ar y cyd ar gyfer ACA morol ac AGA morol.

 

Dechreuodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfnod ymgynghori sylweddol ac anffurfiol gyda rhanddeiliaid ar 23ain Chwefror, er mwyn esbonio a thrafod y safleoedd newydd posibl ac archwilio’r goblygiadau. Bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

 

Mae taflen yn crynhoi’r safleoedd posibl a chyfres ategol o Gwestiynau Cyffredin wedi’u llunio, a cheir copïau ohonynt gyda’r llythyr hwn. Mae’r rhain ar gael hefyd i’w lawrlwytho oddi ar y we-dudalen a ganlyn:

 

http://naturalresourceswales.gov.uk/marine/information-about-our-marine-work/?lang=cy

http://naturalresourceswales.gov.uk/marine/information-about-our-marine-work/?lang=en

 

Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw penderfynu pa un a ddylid dynodi safleoedd yn nyfroedd tiriogaethol Cymru, ai peidio. Rhaid i’r penderfyniad gael ei seilio’n llwyr ar y dystiolaeth wyddonol. Fel rhan o’r broses, rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch safleoedd posibl, a phenderfynu pa un a ddylid bwrw ymlaen â’r ymgynghoriad ffurfiol ai peidio ar sail y cyngor hwn.

 

Swyddogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses yw bod yn gynghorydd statudol i’r Llywodraeth ynghylch dewis safleoedd. Ymhellach, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch safleoedd posibl ar ran, ac yn ôl cyfarwyddyd, Llywodraeth Cymru.

 

Rhaglen Waith Forol CNC

Ar hyn o bryd rydym yn ceisio cadarnhau ein rhaglen waith forol ar gyfer 2015/16, ac fel y trafodwyd yn y sesiwn dystiolaeth ar 26ain Chwefror byddwn yn anfon hon at y Pwyllgor cyn gynted ag y bydd ar gael.

 

Os byddwch angen unrhyw wybodaeth bellach, mae croeso ichi gysylltu â mi.

 

Yn gywir

 

 

Keith Davies

Pennaeth Cynllunio Ynni, Tirweddau a Newid Hinsawdd